Rhif y ddeiseb: P-06-1231

Teitl y ddeiseb: Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru

Geiriad y ddeiseb:

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru, ac ymrwymo i wneud 10 y cant o arosfannau bysiau yn gyfeillgar i wenyn dros y pum mlynedd nesaf.


1.        Cefndir

Mae pryder ar led yn y DU a thu hwnt am statws pryfed peillio, yn enwedig gwenyn.

Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn hanfodol ar gyfer cynnal bioamrywiaeth, cefnogi ecosystemau ac yn y pen draw roi sicrwydd bwyd oherwydd y gwaith peillio a wneir ganddynt. Yn ôl yr elusen Buglife, mae 84 y cant o gnydau’r UE (gwerth £12.6 biliwn) ac 80 y cant o flodau gwyllt yn dibynnu ar bryfed i’w peillio, ac mae un o bob tair cegaid o’n bwyd yn dibynnu ar bryfed peillio.

Mae dros 250 o rywogaethau o wenyn yn y DU. Nid yw niferoedd pob rhywogaeth yn dirywio. Fodd bynnag, mae Adroddiad Gwenyn Dan Fygythiad Cymru gan Buglife yn ymdrin â’r 26 rhywogaeth o wenyn s’n wynebu’r perygl mwyaf yn y DU ac sydd yn bresennol yng Nghymru. Canfuwyd bod dosbarthiad y mwyafrif wedi crebachu, bod 7 rhywogaeth eisoes wedi diflannu a bod 5 arall mewn perygl mawr o ddiflannu. Dywed Buglife fod colli gwenyn i’w weld yn glir drwy Gymru gyfan, a bod rhai siroedd wedi colli hyd at 10 rhywogaeth.

Nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod 38 y cant o rywogaethau gwenyn a phryfed hofran ledled Ewrop yn prinhau, gyda dim ond 12 y cant yn cynyddu.

Mae’r gostyngiad ym mhoblogaethau gwenyn i’w briodoli i bwysau o sawl cyfeiriad. Yn ôl Buglife, mae pryfed peillio’n wynebu ‘storm berffaith’ o broblemau, gan gynnwys:

§  effaith newid hinsawdd ar batrymau tywydd;

§  ffermio dwys sy'n dryllio ac yn ynysu cynefinoedd llawn blodau;

§  colli cynefinoedd blodau oherwydd trefoli;

§  'glanhau' cefn gwlad;

§  plannu amhriodol o goed; a

§  cholli safleoedd tir llwyd.

Mae’r Bartneriaeth Byw Gyda Newid Amgylcheddolyn nodi nifer o fesurau posibl i fynd i’r afael â cholli rhywogaethau, gan gynnwys addasu mannau dan berchnogaeth gyhoeddus i gyflenwi cynefinoedd.

Yn 2019, mewn cydweithrediad â’r asiantaeth hysbysebu Clear Channel, gosododd Cyngor Dinas Utrecht (yr Iseldiroedd) doeau gwyrdd ar 316 o arosfannau bysiau i greu mannau cyfeillgar i wenyn.

Mae'r syniad wedi lledaenu i'r DU a thrwy’r byd. Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd Caerdyddgynlluniau i blannu ar 10 arhosfan fysiau, gyda Clear Channel yn eu cynnal fel rhan o'i gontract cynnal a chadw. Mae Caerlŷr hefyd wedi gweithredu'arosfannau bysiau gwenyn', eto trwy gytundeb â Clear Channel. Crybwyllir manteision ehangach hefyd, megis rheoli glawiad ac ansawdd aer.

Camau gweithredu’r Senedd

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd y Senedd argyfwng natur, a galwodd am dargedau statudol i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae’r Rhaglen Lywodraethu: diweddariad yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori ei hymateb i’r argyfwng natur “ym mhopeth a wnawn”.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am osod a chynnal a chadw’r rhan fwyaf o arosfannau bysiau, ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi bysiau ac am ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Er bod y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth a pholisi cadwraeth natur yn deillio o rwymedigaethau rhyngwladol, mae cyfrifoldeb dros gadwraeth natur yng Nghymru wedi cael ei ddatganoli.

Diweddarodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Adfer Natur yn 2020. Mae'n gwneud nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys: ymgorffori bioamrywiaeth yn y broses o wneud penderfyniadau; diogelu rhywogaethau a chynefinoedd; gwella gwytnwch yr amgylchedd naturiol trwy adfer a chreu cynefinoedd; a mynd i'r afael â phwysau ar rywogaethau a chynefinoedd.

Bwriad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw hyrwyddo rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth a’r mathau o gynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf i fioamrywiaeth yng Nghymru.

Mae Polisi Adnoddau Naturiol (PAN) Llywodraeth Cymru, sy’n deillio o’r Ddeddf hon, yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu seilwaith gwyrdd “yng nghanol ein cymunedau” i ddarparu mannau ar gyfer natur. Mae adran drafnidiaeth y PAN (tudalen 28) yn anelu’n benodol at “[g]ynnwys atebion seiliedig ar natur wrth gynllunio a datblygu seilwaith newydd cysylltiedig â thrafnidiaeth”.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio yn 2013. Nododd gamau gweithredu i gyflawni 4 canlyniad, gan gynnwys bod “Cymru yn darparu cynefinoedd amrywiol a chysylltiedig sy’n llawn blodau i gynnal ein pryfed peillio”. Cafodd y cynllun ei adolygu a'i ddiweddaru yn 2018 gan y Tasglu Pryfed Peillio.

Mae Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn nodi “Byddwn yn cynnal a gwella bioamrywiaeth ac yn cynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy weithrediadau trafnidiaeth a phrosiectau seilwaith”. Dywed:

Yn unol â'n Polisi Adnoddau Naturiol, byddwn yn cynnal bioamrywiaeth ac yn cynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy'r ffordd rydym ni a’n partneriaid yn rheoli’r ystad feddal sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau trafnidiaeth, ac wrth gynllunio a darparu ymyriadau trafnidiaeth, gan gynnwys uwchraddio seilwaith a chynllunio seilwaith newydd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gweithrediadau trafnidiaeth bob dydd yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.

Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â’r ddeiseb hon ar 13 Ionawr. Mae’r llythyr yn cyfeirio at ystod o gamau gweithredu mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth drwy bolisïau trafnidiaeth a chynllunio, yn ogystal â chyllid. Mae’r mesurau yn cynnwys y Rhaglen Coridorau Gwyrdd a lansiwyd yn 2018. Mae’r llythyr yn dweud: “Mae rhai awdurdodau lleol yn dechrau gosod cysgodfannau bysiau gyda ‘thoeau byw’ gan ddefnyddio cronfa drafnidiaeth leol Llywodraeth Cymru”. Mae’n cloi fel a ganlyn:

O ran y cynigion a'r targedau penodol yn y ddeiseb, fel yr amlinellir uchod, er nad oes gennym darged penodol ar waith o ran cysgodfannau bysiau, rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid a'n cymunedau mewn termau llawer ehangach i annog gwyrddu ardaloedd ledled Cymru drwy nifer o fentrau. Bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth sylweddol i Lywodraeth Cymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.